OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 2729 (Cy. 292)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Gweithrediadau Llusgrwydo Cregyn Bylchog (Dyfeisiau Olrhain) (Cymru) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn rheoleiddio gweithrediadau llusgrwydo cregyn bylchog drwy osod gofyniad ar gychod pysgota Prydeinig penodol sydd â llusgrwydi cregyn bylchog arnynt i drosglwyddo gwybodaeth benodol. Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd2012.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gwch pysgota Prydeinig sydd â llusgrwyd cregyn bylchog arno i gael dyfais olrhain wedi ei gosod ac i drosglwyddo’r wybodaeth ofynnol i’r derbynnydd enwebedig bob deng munud tra bydd ar y môr.
Mae erthygl 4 yn darparu nad yw erthygl 3 yn gymwys i unrhyw gwch pysgota Prydeinig nad yw’n pysgota am gregyn bylchog yng Nghymru ac y mae unrhyw lusgrwydi cregyn bylchog sydd wedi eu cysylltu â’r cwch hwnnw wedi eu stowio a’u diogelu y tu allan i’r dŵr.
Mae erthygl 5 yn rhoi diffiniad o’r wybodaeth ofynnol y mae’n rhaid i’r ddyfais olrhain ei throsglwyddo i’r derbynnydd enwebedig.
Mae erthygl 6 yn nodi gofynion penodol sy’n gymwys os na all y ddyfais olrhain drosglwyddo’r wybodaeth ofynnol yn unol ag erthygl 3.
Mae erthygl 7 yn gosod gofynion pellach ynghylch y ddyfais olrhain ar y person sydd â gofal dros unrhyw gwch pysgota Prydeinig y mae llusgrwyd cregyn bylchog arno.
Gwnaed Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn ac mae ar gael i’w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 2729 (Cy. 292)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Gweithrediadau Llusgrwydo Cregyn Bylchog (Dyfeisiau Olrhain) (Cymru) 2012
Gwnaed 30 Hydref 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 31 Hydref 2012
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio([2]) ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithrediadau Llusgrwydo Cregyn Bylchog (Dyfeisiau Olrhain) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 1 Tachwedd 2012.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cregyn bylchog” (“scallop”) yw pysgod cregyn o rywogaeth Pecten maximus;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006([3]);
ystyr “derbynnydd enwebedig” (“nominatedreceiver”) yw’r corff a enwebir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd i gael yr wybodaeth ofynnol wedi ei throsglwyddo drwy ddyfais olrhain yn unol â’r Gorchymyn hwn;
ystyr “dyfais olrhain” (“trackingdevice”) yw dyfais a all drosglwyddo’r wybodaeth ofynnol;
mae “llusgrwyd cregyn bylchog” (“scallop dredge”) yn cynnwys unrhyw gyfarpar ac iddo ffrâm anhyblyg yn enau, a lusgir drwy’r dŵr ac a weithgynhyrchir, a addesir, a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio at ddiben pysgota am gregyn bylchog;
mae i “llythrennau porthladd” yr ystyr a roddir i “port letters” yn rheoliad 1 o Reoliadau Llongau Masnachol (Cofrestru Llongau) 1993([4]);
ystyr “person sydd â gofal” (“person in charge”), mewn perthynas â chwch pysgota Prydeinig, yw perchennog, meistr neu siartrwr, os oes un, y cwch pysgota Prydeinig neu asiant unrhyw un ohonynt;
mae i “rhif porthladd” yr ystyr a roddir i “port number” yn rheoliad 1 o Reoliadau Llongau Masnachol (Cofrestru Llongau) 1993;
ystyr “WGS 84” (“WGS84”) yw System Geodesig y Byd a ddiwygiwyd ym 1984 ac a ddiwygiwyd ymhellach yn 2004; ac
ystyr “yr wybodaeth ofynnol” (“requiredinformation”) yw’r wybodaeth a nodir yn erthygl 5.
Rheoleiddio gweithrediadau llusgrwydo cregyn bylchog
3. Yn ddarostyngedig i erthygl 4, rhaid i unrhyw gwch pysgota Prydeinig sydd â llusgrwyd cregyn bylchog arno—
(a) bod â dyfais olrhain wedi ei gosod ar y cwch hwnnw; a
(b) trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol i’r derbynnydd enwebedig o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeng munud tra bydd y cwch hwnnw ar y môr.
Eithriad
4. Nid yw erthygl 3 yn gymwys i gwch pysgota Prydeinig—
(a) nad yw’n cyflawni unrhyw weithrediad pysgota yng Nghymru mewn perthynas â chregyn bylchog; a
(b) y mae pob llusgrwyd cregyn bylchog sydd wedi ei chysylltu â’r cwch hwnnw wedi ei stowio a’i diogelu y tu allan i’r dŵr.
Yr Wybodaeth Ofynnol
5. Yr wybodaeth ofynnol yw—
(a) y llythrennau porthladd a’r rhif porthladd sy’n ymwneud â’r cwch pysgota Prydeinig sy’n trosglwyddo’r wybodaeth ofynnol;
(b) safle daearyddol diweddaraf y cwch hwnnw gan ddefnyddio cyfesurynnau lledred a hydred ar yr WGS 84, gyda chyfeiliornad safle o lai na 10 metr;
(c) y dyddiad a’r amser pan bennwyd safle daearyddol y cwch hwnnw; a
(d) cyflymder a llwybr y cwch hwnnw y pryd hynny.
Methiant Dyfais Olrhain
6.—(1) Os na all dyfais olrhain sydd wedi ei gosod yn unol ag erthygl 3 drosglwyddo’r wybodaeth ofynnol, rhaid i’r person sydd â gofal dros y cwch pysgota Prydeinig y mae’r ddyfais olrhain honno wedi ei gosod arno—
(a) sicrhau na ddefnyddir y cwch hwnnw i bysgota am gregyn bylchog; a
(b) hysbysu Gweinidogion Cymru na all y ddyfais olrhain drosglwyddo’r wybodaeth ofynnol.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)(b) gynnwys llythrennau porthladd a rhif porthladd y cwch pysgota Prydeinig y mae’r ddyfais olrhain berthnasol wedi ei gosod arno.
(3) Pan fydd dyfais olrhain y mae paragraff (1) yn gymwys iddi wedi ei hatgyweirio neu ei hamnewid fel y gall y cwch pysgota Prydeinig y gosodwyd y ddyfais honno arno drosglwyddo’r wybodaeth ofynnol yn unol ag erthygl 3, rhaid i’r person sydd â gofal dros y cwch hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru y gall y cwch hwnnw gydymffurfio ag erthygl 3 cyn y caniateir defnyddio’r cwch hwnnw i bysgota am gregyn bylchog, eu cymryd neu eu lladd.
Gorfodi
7.—(1) Rhaid i’r person sydd â gofal dros gwch pysgota Prydeinig y mae dyfais olrhain wedi ei gosod arno yn unol ag erthygl 3 sicrhau—
(a) na ellir cymryd rheolaeth â llaw o’r ddyfais olrhain sydd wedi ei gosod;
(b) na all y ddyfais olrhain drosglwyddo gwybodaeth anwir;
(c) na chaiff yr wybodaeth ofynnol ei newid mewn unrhyw ffordd;
(d) na rwystrir unrhyw antena neu’r antenâu sy’n gysylltiedig â’r ddyfais olrhain mewn unrhyw ffordd; ac
(e) na thorrir y cyflenwad pŵer i’r ddyfais olrhain mewn unrhyw ffordd.
(2) At ddibenion yr erthygl hon, ystyr “gwybodaeth” (“information”) yw unrhyw wybodaeth sy’n rhan o’r wybodaeth ofynnol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), gwaherddir dinistrio dyfais olrhain sydd wedi ei gosod at ddibenion erthygl 3, ei difrodi, ei gwneud yn anweithredol, ei symud ymaith neu ymyrryd arni fel arall.
(4) Rhaid i’r person sydd â gofal dros gwch pysgota Prydeinig sicrhau y caiff unrhyw gregyn bylchog a ddelir neu a gymerir ar y cwch hwnnw yn groes i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn eu dychwelyd i’r môr cyn gynted â phosibl.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
30 Hydref 2012
([1]) 1968 p.77. Diwygiwyd adran 5(1) gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86), adrannau 4(2), 5 a 9(1), Atodlen 1, paragraff 3(1) ac Atodlen 2, paragraff 17(1), Deddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adran 24(2) a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53), adran 17(3), Atodlen 4, Rhan III ac fe'i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan I, paragraff 48(1) a (2). Gweler adran 19 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 i gael diffiniad o “the Ministers”; diwygiwyd y diffiniad o “the Ministers” yn adran 19 gan O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan I, paragraff 48(1), (5)(a), (b), (c)(i) a (ii) a (d).
([2]) Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd yn arferadwy o dan adran 5 o Ddeddf 1968 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru ar yr amod bod y swyddogaethau o dan adran 5 sy'n ymwneud ag adnabod a marcio cychod pysgota yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw un o Weinidogion eraill y Goron y maent yn arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.